Ein Cyf / Our Ref: TP
Dyddiad / Date: 23 Medi 2024
Gofynnwch am / Please ask for: Tim Peppin
Llinell uniongyrchol / Direct line: 07747 483761
E-bost / E-mail: tim.peppin@wlga.gov.uk
Cadeirydd – Pwyllgor Deisebau
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd CF99 1SN
Annwyl Gadeirydd
Deiseb P-06-1380 Bathodyn Glas gydol oes i unigolion sydd â diagnosis gydol oes.
Diolch i chi am eich llythyr dyddiedig 17 Gorffennaf ynglŷn â’r ddeiseb uchod. Mae’n ddrwg gen i am yr oedi cyn ymateb, ond mae’r swyddogion wedi bod yn ceisio casglu gwybodaeth i gynnig atebion i’r cwestiynau a godwyd.
Er bod ystadegau wedi’u cyhoeddi am fathodynnau glas yn Lloegr (e.e. Blue Badge scheme statistics: data tables (DIS) - GOV.UK (www.gov.uk)), nid ydym yn ymwybodol o gyhoeddiad tebyg ar gyfer Cymru. Ymgynghorodd swyddogion CLlLC â Data Cymru ar hyn, ac maen nhw’n ymchwilio gyda Llywodraeth Cymru. Os byddan nhw’n cysylltu â ni gydag unrhyw wybodaeth bellach, byddwn yn siŵr o roi gwybod i chi.
Mae’r Gwasanaeth Digidol Bathodyn Glas (BBDS) yn darparu System Gwybodaeth Rheoli ar y we i bob Cyngor. Drwy’r BBDS, mae’n bosib cael gafael ar fanylion am ddeiliaid Bathodyn Glas o unrhyw le ym Mhrydain Fawr. Fodd bynnag, nid oes gan CLlLC fynediad at y BBDS ac mae’n aneglur os yw data cyfanredol yn cael ei dynnu o’r system honno a’i gyhoeddi yn rhywle ar gyfer Cymru.
O ystyried y sylwadau uchod, mae ymateb cryno i bob un o’r pedwar pwynt rydych chi’n eu codi i’w gweld isod.
(1) Nid oes angen data am faint o unigolion sy’n dal bathodyn glas gydol oes ar hyn o bryd ym mhob awdurdod lleol er mwyn mynd drwy’r broses adnewyddu lawn bob 3 blynedd.
Gan fod gofyn adnewyddu bathodynnau bob tair blynedd, ni chredwn fod yna unrhyw fathodynnau gydol oes, yn amodol ar y sylwadau a wnaed wrth ymateb i Gwestiwn 2 isod. Efallai y gall Cynghorau unigol egluro a oes yna unrhyw drefniadau lleol ar waith, ond nid yw CLlLC yn casglu na choladu gwybodaeth am y cynllun. Os nad yw Llywodraeth Cymru’n gwneud hynny, nid ydym yn ymwybodol bod y wybodaeth hon yn cael ei chadw mewn un lle, felly byddai angen holi pob Cyngor.
(2) Oes yna broses symlach o adnewyddu gydol oes ym mhob awdurdod lleol?
Mae gwefan pob Cyngor yn cynnwys gwybodaeth am y cynllun bathodyn glas a sut i wneud cais. Gellir gwneud hyn ar lein neu wyneb yn wyneb. Ar hyn o bryd, yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru sydd wedi’u cyhoeddi ar gymhwyso (Bathodynnau Glas: pwy sy’n gymwys? [HTML] | LLYW.CYMRU), rhaid gwneud cais bob tair blynedd (a 12 wythnos cyn i’r bathodyn cyfredol ddod i ben). Fodd bynnag, efallai y gellir cymhwyso’n awtomatig heb fod angen asesiad os gellir dangos tystiolaeth o’r canlynol:
(3)Oes yna unrhyw gynlluniau hyfforddi cyffredin neu a rennir?
Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal hyfforddiant ac wedi rhannu gwybodaeth i Gynghorau am fathodynnau glas yn y gorffennol wrth gyflwyno newidiadau. Cafwyd canllawiau hefyd ar ddefnyddio bathodynnau glas yn ystod pandemig Covid. Yn fwy diweddar, cynhaliwyd sesiynau hyfforddi mewn perthynas â materion gorfodi bathodynnau glas.
(4)Oes yna unrhyw fforwm neu rwydwaith Cymru gyfan i rannu a datblygu arferion da?
Mae yna amrywiol rwydweithiau o swyddogion llywodraeth leol sy’n helpu i rannu arferion da ac a all gynnwys mentrau hyfforddi ar y cyd. Mae gwahanol adrannau’n ymdrin â bathodynnau glas mewn gwahanol Gynghorau (e.e. y gwasanaethau cymdeithasol; priffyrdd; canolfannau gwasanaeth i gwsmeriaid). Gall hyn ei gwneud yn anodd dod o hyd i’r rhwydwaith gorau i rannu gwybodaeth am fathodynnau glas. Fodd bynnag, canolfannau gofal cwsmeriaid, siopau un alwad neu ganolbwyntiau cymunedol a sefydlwyd gan Gynghorau ar gyfer y cyhoedd sy’n ymdrin â bathodynnau glas yn fwyfwy cyffredin. Mae yna Grŵp Cyswllt Cwsmeriaid allai gynnwys bathodynnau glas fel rhan o’u gweithgareddau rhwydweithio.
Gobeithio bod yr ymateb hwn o fudd i chi. Os byddwn ni’n cael unrhyw wybodaeth ychwanegol am y pwyntiau uchod, rwyf wedi gofyn i swyddogion CLlLC ei hanfon ymlaen atoch chi.
Yn gywir,
Y Cynghorydd Andrew Morgan OBE
Arweinydd a Llefarydd Cludiant CLlLC